Ers i mi ddod yn wleidyddol effro yn fy arddegau ar ddiwedd y 90au dwi wedi bod yn ymwybodol o broblem tai haf yng Nghymru, ond yn ystod y blynyddoedd diweddar, yn ogystal â’r broblem tai haf (ail dŷ rhywun) mae sôn cynyddol am dai gwyliau i’w gosod i ymwelwyr. Mae hefyd fel petai wedi dod yn fwy o broblem drefol hefyd yn lle jest rhywbeth cefn gwlad ac nid problem yng Nghymru yn unig yw hon chwaith wrth gwrs. Cwmni AirBnb yw’r cocyn hitio amlwg, ac yn haeddiannol mae’n siŵr, ond dim ond un cwmni/llwyfan ym
“Chwarae fy rhan”
Ers cael plant, rydym wedi bod ar wyliau lle rydym wedi llogi tŷ, dau haf yn olynol yn yr un lle yng Nghei Bach, Ceredigion (a ddysgais wedyn oedd yn eiddo i rywun o Bromsgrove), un arall ger traeth Penbryn, Ceredigion (eto perchennog absennol, ddim yn siŵr o ble) ac un yn Bamburgh, Northumberland (cwpl o Newcastle oedd yn berchen arno, a daethant i’n cwrdd). Mae pentref Bamburgh yn hynod dlws ac yn amlwg wedi troi’n ddim mwy na phentref gwyliau ers tro, ond roedd y tŷ arhosom ni ynddo ond newydd ei droi’i